Ymgynghoriad Glan Môr Bae Abertawe

Diolch i chi am lenwi’r holiadur hwn, dylai ond gymryd tua 5 munud i chi ei wneud. Mae Innes Associates wedi’u comisiynu gan Gyngor Abertawe i gynnal astudiaeth annibynnol ar welliannau posibl i lan môr Bae Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a Blackpill.

This survey is also available in English
Mae’r arolwg yma hefyd ar gael yn Saesneg

Swansea Bay

Rydym yn awyddus i glywed barn pobl sy’n defnyddio glan y môr, gan gynnwys trigolion lleol, i gael gwybod beth yw eich barn am lan y môr, y traeth a’r cyfleusterau ar bob ochr i’r ffordd fawr. Hoffem wybod a hoffech weld unrhyw welliannau.

Gallai’r rhain fod ar gyfer:

  • cyfleusterau fel y Lido, y Llyn Cychod, Golff Gwirion, Offer Ymarfer Corff
  • helpu pobl i gael mynediad i’r ardal neu at gyfleusterau fel trafnidiaeth gyhoeddus, mynediad i gerddwyr, llwybrau beicio, parcio, y Trên Tir
  • cyfleusterau hamdden, twristiaeth neu chwaraeon
  • y cynnig o ran bwyd a diod
  • annog rhai o’r prosesau naturiol sy’n digwydd ar lan y môr, megis adfer y twyni, ffensys tywod (i ddal tywod sy’n cael ei chwythu gan y gwynt) a phlannu mwy o lystyfiant sy’n gallu goddef halen

Gallai datblygiadau hefyd gynnwys hygyrchedd neu gyfleusterau addysg megis cuddfannau, llwybrau cerdded neu fyrddau gwybodaeth sy’n esbonio’r cynefinoedd a’r rhywogaethau lleol sy’n byw yno i ymwelwyr.

Bydd unrhyw welliannau yn dibynnu ar y Cyngor yn cael gafael ar gyllid ac ni allwn warantu y bydd yr holl newidiadau a awgrymir yn digwydd, ond nid oes dim wedi ei benderfynu eto a bydd pob awgrym yn cael ei ystyried.

Y nod i’r hirdymor yw gwella a datblygu glan y môr drwy ymateb i’r pethau y mae pobl yn teimlo sydd eu hangen fwyaf, a chreu profiad cynaliadwy trwy gydol y flwyddyn i bobl sy’n ymweld â’r ardal, gan gynllunio ar gyfer cefnogi’r economi leol a lles defnyddwyr yn ogystal â rheolaeth gynaliadwy ar gynefinoedd yr ardal er mwyn i’r planhigion a’r anifeiliaid sydd yno barhau i ffynnu.

Mae’r arolwg hwn yn ddienw ac ni fydd data personol yn cael ei storio.

Scroll to Top